Mae dau o fowlwyr Morgannwg wedi talu teyrnged i’r wicedwr Mark Wallace, sydd wedi dod yn gyfartal â’i record ei hun a Colin Metson am y nifer o ddaliadau a stympiadau mewn gêm Bencampwriaeth i’r sir.

Cyflawnodd y wicedwr o Went y gamp dros ddau ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon, lle mae Morgannwg yn cwrso 277.

Cipiodd Wallace naw o ddaliadau yn New Road dros y ddau fatiad, lle mae angen 261 o rediadau eto ar Forgannwg i guro Swydd Gaerwrangon ar y diwrnod olaf ddydd Mawrth.

Cafodd Wallace bump daliad yn y batiad cyntaf, a phedwar yn yr ail fatiad – gan ailadrodd ei gamp yn erbyn Swydd Derby ym Mae Colwyn yn gynharach y tymor hwn.

Roedd Colin Metson hefyd wedi cael naw daliad neu stympiad i Forgannwg ar ddau achlysur – unwaith ar yr Oval yn erbyn Swydd Surrey yn 1995, a’r tro blaenorol, fel mae’n digwydd, ar gae New Road yng Nghaerwrangon yn 1993.

“Anhygoel, arbennig o dda”

Dywedodd y troellwr llaw chwith 22 oed o Bontarddulais, Owen Morgan wrth Golwg360: “Mae Wally yn chwaraewr anhygoel i Glwb Criced Morgannwg.

“Mae e’n torri record bob gêm! Mae e’n dal yn un o’r chwaraewyr gorau tu ôl i’r stymps, mae e’n arbennig o dda.

“Mae’n brofiad ardderchog achos mae e wedi chwarae shwd gymaint o gemau, mae e’n rhwydd i fi fynd lan ato fe a gofyn cwestiynau, mor rhwydd, felly mae e’n arbennig.”

Ychwanegodd Graham Wagg: “Mae’n amlwg yn gyflawniad ffantastig – mae e’n torri record yn bob man tu ôl i’r wiced gyda’r nifer o gemau mae e wedi chwarae ynddyn nhw.

“Mae e wedi bod yn cadw wiced yn eithriadol o dda, yn enwedig dros y ddau ddiwrnod diwethaf.

“Mae e hefyd wedi dod yn ôl i mewn i’r tîm undydd ac wedi cadw wiced yn arbennig o dda. Mae torri record ar ôl record a chadw fynd fel mae e’n gwneud yn ymdrech arbennig o dda.”