Mae Becky James wedi torri record Olympaidd Vicky Pendleton yn y ras wib yn Rio, gan gyrraedd rownd yr 16 olaf.

Gorffennodd y Gymraes mewn 10.721 eiliad, gan orffen gyflymaf yn erbyn y cloc.

Cafodd record Pendleton ei gosod yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Mae James eisoes wedi ennill medal arian yn y keirin dros y penwythnos.