Mae Caerdydd wedi colli gartref o 2-0 yn erbyn QPR wrth i’w cyn-amddiffynnwr Steven Caulker rwydo.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen drwy Caulker ar ôl 76 munud wrth iddo benio’r bêl i’r rhwyd oddi ar groesiad gan Jake Bidwell.

Cic o’r smotyn seliodd y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr wrth i Tjarron Chery sgorio o’r smotyn yn dilyn tacl flêr ar Sebastian Polter gan Bruno Manga.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn dal i chwilio am eu gôl gyntaf mewn dwy gêm gynghrair.

Daeth Emyr Huws i’r cae fel eilydd yn ei gêm gyntaf ers symud i Gaerdydd o Wigan Athletic.

Caerdydd: Marshall, Peltier, Ecuele (Manga), Connolly, Richards (Noone), Immers (Huws), Whittingham, Ralls, John, Gounongbe (Zohore), Pilkington 

Cardiau melyn: Ralls

QPR: Smithies, Onuoha, Caulker, Hall, Bidwell, Henry, Luongo, Cousins, Chery (Washington), Gladwin (N’Gbakoto), Polter (Perch)

Goliau: Caulker (76), Chery (85 cic o’r smotyn)

Cardiau melyn: Onuoha, Henry, Luongo, Chery

Torf: 15,869