Vicky Thornley wedi rhoi'r gorau i ddeuawd gyda Katherine Grainger
Mae gobeithion rhwyfwraig o Gymru o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro yn y fantol ar ôl iddi fethu â chael lle yn wythawd Prydain.
Roedd Vicky Thornley wedi rhoi’r gorau i’w deuawd â Katherine Grainger er mwyn canolbwyntio ar yr wythawd.
Ond dydy’r un o’r ddwy wedi cael eu dewis ymhlith yr wyth.
Bydd carfan Prydain yn cael ei henwi ddydd Iau, ac mae’n ymddangos mai’r unig ffordd y caiff yr un o’r ddwy fynd i Rio yw pe bai’r dewiswyr yn penderfynu ail-ffurfio’r ddeuawd.
Daeth y bartneriaeth i ben yn swyddogol ar ôl iddyn nhw fethu â chael medal ym Mhencampwriaethau Ewrop.
Dywedodd corff British Rowing mewn datganiad eu bod nhw’n ystyried eu hopsiynau ar hyn o bryd.
Katherine Grainger sydd ar frig y tabl medalau ar gyfer menywod Prydeinig yn y Gemau Olympaidd, ynghyd â’r nofwraig Becky Addlington, ac roedd hi’n rhan o’r ddeuawd – gydag Anna Watkins – a enillodd y fedal aur yn Llundain yn 2012.