Mae prif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, Robert Croft wedi enwi carfan o 16 o chwaraewyr ar gyfer eu gêm 50 pelawd yn erbyn Siarcod Swydd Sussex yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Mae’r Cymry’n anelu am drydedd buddugoliaeth mewn gêm undydd y tymor hwn, yn dilyn un fuddugoliaeth allan o un yn y gystadleuaeth 50 pelawd, a dwy allan o dair yn y T20 Blast.
Mae Ruaidhri Smith wedi’i gynnwys yn y garfan ar ôl cwblhau ei arholiadau, ac mae Will Bragg yn cadw ei le ar ôl taro 75 yn erbyn Swydd Gaerloyw ddydd Llun.
Dywedodd y capten Jacques Rudolph ei fod yn awyddus i gynnal momentwm Morgannwg.
“Rwy bob amser yn siarad am fomentwm ac fel uned ym mhob un o’r tri fformat ry’n ni wedi bod yn eitha da yn ddiweddar.
“Mae Swydd Sussex yn dîm cryf ac maen nhw bob amser yn cystadlu’n galed ond yn ffodus, mae nifer o fois yn ein tîm ni sy’n llawn hyder ar hyn o bryd ac yn barod i’w herio nhw.”
Ond mae’r ymwelwyr wedi ennill wyth allan o’u 10 gêm 50 pelawd diwethaf yng Nghaerdydd.
Byddan nhw’n cael eu harwain gan gyn-chwaraewr amryddawn Lloegr, Luke Wright ond mae’r bowliwr cyflym Matt Machan allan gydag anaf i’w arddwrn.
Mae’r bowliwr cyflym Steve Magoffin hefyd wedi cael ei gynnwys yn y garfan.
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Cooke, D Cosker, A Donald, T van der Gugten, M Hogan, C Ingram, D Penrhyn Jones, D Lloyd, C Meschede, A Salter, N Selman, R Smith, G Wagg, M Wallace
Carfan Siarcod Swydd Sussex: W Beer, D Briggs, B Brown, H Finch, G Garton, C Jordan, E Joyce, S Magoffin, C Nash, O Robinson, Ajmal Shahzad, R Taylor, L Wright (capten)
.