Owain Doull (Llun: Wikipedia/Jeremy Jannick)
Daeth cadarnhad y bydd y Cymro Owain Doull yn symud i dîm seiclo Team Sky ar ôl y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro dros yr haf.

Cafodd y trosglwyddiad ei grybwyll ar gam gan Syr Bradley Wiggins yn ystod cynhadledd i’r wasg yn y Tour yng Nghaliffornia.

Wrth gadarnhau’r sïon, dywedodd Brailsford: “Ry’n ni’n hapus iawn i gadarnhau y bydd Owain yn dod draw i Team Sky. Bydd e’n ymuno â ni ar ôl y Gemau Olympaidd.

“Mae Brad wedi bod yn gyffro i gyd fod seiclwr yn dod draw i ni o’i dîm e ac felly fe ddylen ni fod wedi gwybod y byddai’n gadael y gath o’r gwd!”

Roedd Doull wedi penderfynu peidio symud o dîm Wiggins cyn y Gemau Olympaidd.

Ond fe fydd e’n ymuno â’i gydwladwyr Geraint Thomas a Luke Rowe wrth iddo droi ei sylw at dymor 2017.

Ychwanegodd Brailsford: “Mae’n eithaf amlwg pam ein bod ni eisiau Owain yn rhan o Team Sky.

“Mae e wedi perfformio’n ardderchog yn gyson ar y trac a’r ffordd ers sbel nawr ac ry’n ni’n credu bod ganddo fe’r potensial i fod yn rhan bwysig o’r tîm.

“Mae’r ffaith fod Owain yn ychwanegiad arall i’n Cymry ni’n beth positif eto!”

Roedd Doull yn drydydd yn y Tour ym Mhrydain ac roedd yn bymthegfed ar ddiwrnod cynta’r Tour yng Nghaliffornia ddydd Sul.