Mae’r clociau wedi mynd ymlaen, mae’r gwanwyn wedi hen gyrraedd, ac mae’r tywydd yn dechrau troi – amser perffaith felly i golwg360 fynd ar ei feic a dod o hyd i’n Tîm yr Wythnos ddiweddaraf!

Rydan ni’n croesi’r bont ar ein taith ddiweddaraf – na, nid dros yr Hafren i Loegr, ond yn hytrach dros y Fenai i gyfarfod rhai o aelodau Clwb Rasio Mona.

Mae’r criw yma o feicwyr wedi bod wrthi ers 1985, pan ffurfiwyd clwb seiclo newydd gan saith o gyn-aelodau Clwb Seiclo Eryri.

Roedd David Hughes yn un o’r aelodau gwreiddiol hynny, ac mae’n parhau i fod yn aelod canolog o’r clwb hyd heddiw.

Un o ffrindiau David ers ei arddegau, a llywydd anrhydeddus Clwb Rasio Mona, ydi’r hyfforddwr seiclo adnabyddus o Ddeiniolen, Syr Dave Brailsford, sydd wedi profi cymaint o lwyddiant gyda thîm Sky.

Yn ôl David Hughes, mae tipyn o gystadleuaeth bellach rhwng gwahanol glybiau seiclo yn yr ardal, yn enwedig gyda chynnydd diweddar yn y diddordeb mewn seiclo yn sgil llwyddiant Geraint Thomas ar y Tour de France a thîm Prydain yn Gemau Llundain 2012.


Rhai o aelodau'r clwb yn rasio ym Miwmares
“Ar ôl y Gemau Olympaidd roedd ‘na boom anferth, mi wnaeth llwyth o bobol ddechrau seiclo, ac roedd hynny’n grêt,” meddai.

Yr ochr gymdeithasol

Ar hyn o bryd mae gan Glwb Rasio Mona tua 35 o aelodau, er bod y ffigwr hwnnw wedi bod dros 100 ar adegau wrth i bobol gael blas ar fynd ar eu beiciau.

Ond mae’n her weithiau esbonio wrth feicwyr gymharol newydd beth yw manteision ymuno â chlwb yn hytrach na gwneud pethau ar eu liwt eu hunain.

“Am fod yna gymaint o bobol newydd yn dod i mewn i seiclo, tydyn nhw ddim yn deall bywyd clwb mor dda, maen nhw’n seiclo mwy fel unigolion. Mae’n anodd esbonio iddyn nhw beth ydy pwrpas cael clwb,” meddai David Hughes.


David Hughes yn cwrdd â'i hen ffrind, Syr Dave Brailsford
“Mae o fatha clwb ffwtbol, mae yna ochr gymdeithasol iddo fo hefyd. Felly mae yna fanteision lle mae pobol yn medru pigo fyny tips gan hen reidars, sut i wneud cais i fynd i rasys ac yn y blaen.

“Os ydy rhywun ddim yn aelod o glwb, maen nhw’n gorfod mynd i chwilio am y pethau yna eu hunain. Mae’n haws rŵan ar y We, ond efo clwb mae yna bobol sydd wedi bod yna ac wedi ei wneud o o’r blaen.

“Dyna ydy pwrpas clybiau, gwneud yn siŵr bod y gamp a’r ochr gymdeithasol yna’n cario ymlaen.

“Mae lot hefyd ddim yn gwybod sut i fihafio ar lonydd, a dyna lle mae clybiau’n bwysig o ran dysgu diogelwch.”
Rhai o feicwyr y clwb yn cael llun efo'r diddanwr Timmy Mallett y tu allan i siop Pringles yn Llanfairpwll

Lle gwell i feicio?

Fe ddechreuodd tymor Clwb Rasio Mona yr wythnos hon gyda threialon amser cyntaf y flwyddyn, ac mae disgwyl rhagor o rasys a chystadlaethau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Mae’r clwb hefyd yn rhan o gystadleuaeth sydd yn cael ei chynnal gan Gymdeithas Seiclo Gwynedd ble mae clybiau’r ardal yn rasio yn erbyn ei gilydd yn ystod y flwyddyn.

Bydd aelodau’r clwb hefyd yn teithio ar hyd a lled gogledd Cymru i seiclo, gan gadw at Ynys Môn ar y cyfan yn ystod misoedd y gaeaf ond mynd mor bell ag Aberdaron, Eryri neu Ddinbych pan mae’r tywydd yn brafiach.

“Rydan ni’n lwcus yn yr ardal yma bod cymaint o lefydd i fynd i,” meddai David Hughes.

“Mae ganddo ni Sir Fôn, mae ganddo ni’r mynyddoedd, mae’n le ffantastig i fyw ac i seiclo. Heblaw am y tywydd, does nunlle gwell – a dw i wedi seiclo yn yr Alps!”

Os hoffech chi gynnig eich clwb chwaraeon lleol chi fel Tîm yr Wythnos, anfonwch e-bost at iolocheung@golwg.com.