Owain Doull
Mae pump o Gymry wedi cael eu dewis yn nhîm seiclo trac Prydain ar gyfer un o’r cystadlaethau pwysicaf yn y paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd Rio 2016.

Bydd Owain Doull, Elinor Barker, Becky James, Ciara Horne ac Emily Nelson i gyd yn nhîm Prydain o 21 fydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac UCI y Byd yn Llundain rhwng 2 a 6 Mawrth.

Mae Doull yn un o wyth sydd wedi cael ei enwi yn nhîm y dynion ar gyfer y rasys hir, tra bod Barker, Horne a Nelson i gyd yn nhîm rasys hir y merched.

Bydd James yn un o dair sydd yn nhîm sbrintio’r merched, wrth i Brydain geisio gosod eu marc ar y gystadleuaeth lai na chwe mis cyn y Gemau Olympaidd.

‘Rio yw’r nod’

Bydd rhai o seiclwyr amlycaf Prydain gan gynnwys Bradley Wiggins, Mark Cavendish, Laura Trott, Joanna Rowsell-Shand, Ed Clancy a Jason Kenny hefyd yn cystadlu yn y bencampwriaeth.

Ac fe awgrymodd cyfarwyddwr technegol y tîm Shane Sutton bod y garfan sydd wedi cael ei ddewis yn weddol agos at hwnnw sydd yn cael ei ystyried ar gyfer y Gemau yn Rio.

“Rydyn ni wedi dewis y garfan gryfaf sydd ar gael i ni ar gyfer y pencampwriaethau yma – rydyn ni mewn siâp da ac mae’r tîm rydyn ni wedi’i ddewis yn agos i’r model Olympaidd,” meddai Sutton.

“Mae ennill wastad yn nod allweddol i unrhyw dîm chwaraeon ac rydyn ni’n sticio at ein bwriad hir dymor sef llwyddiant yng Ngemau Olympaidd Rio, felly fe fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau perfformiad yn seiliedig ar y strategaeth hon.”