Mae’r Gweilch wedi cadarnhau y byddan nhw’n arwyddo prop Cymru Rhodri Jones o’r Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Penwythnos diwethaf fe chwaraeodd y gŵr o Fachynlleth ei ganfed gêm dros y Scarlets yn eu buddugoliaeth dros Gaeredin.

Ond fe fydd nawr yn symud lawr yr M4 i Stadiwm Liberty, ar ôl arwyddo cytundeb fydd yn para nes 2018.

Ac fe gyfaddefodd rheolwr cyffredinol y Scarlets Jon Daniels fod y rhanbarth yn “siomedig” ei weld yn gadael.

Newid ochr

Dywedodd y chwaraewr 24 oed, sydd â 13 cap dros Gymru, ei fod yn edrych ymlaen at ddatblygu’n bellach yn safle’r prop pen tynn gyda’r Gweilch.

“Dw i’n gyffrous i symud. Dw i wedi mwynhau fy nghyfnod gyda’r Scarlets ond mae hwn yn gyfle gwych i mi’n broffesiynol,” meddai Rhodri Jones.

“Mae’r Gweilch yn dîm sy’n gystadleuol ar bob ffrynt, un sydd fyny yna efo’r goreuon felly mae’n her dda i mi geisio sefydlu fy hun yn y garfan, a dw i’n edrych ymlaen.

“Dw i wedi taflu fy hun i mewn i’r her o newid ochr yn y sgrym, ac mae wedi bod yn anodd ar adegau, ond mae gan y Gweilch record wych am ddatblygu blaenwyr ac fe fydd mynd yno’n helpu fi i wella fel prop pen tynn.”