Mae dringwyr ifanc yn galw ar Gyngor Gwynedd i drwsio adeilad sy’n gartref i’r unig graig ddringo dan do yn yr ardal.

Oni bai bod y cyfleusterau yng Nghae Peips ym Mlaenau Ffestiniog yn cael eu hatgyweirio, bydd rhaid canslo gŵyl ddringo sy’n cael ei chynnal ar y safle eleni, medd y trefnwyr.

Tan yn ddiweddar, mae Clwb Dringo Hongian wedi bod yn talu rhent i gael defnyddio’r adeilad, sydd wedi bod yn wag ers tua deng mlynedd fel arall.

Mae to’r cwt sinc sy’n gartref i’r graig dringo yn dyllau, ac roedd glaw yn llifo i mewn pan aeth golwg360 draw.

Mae dŵr yn dod mewn i doiledau’r prif adeilad a baw llygod ar lawr yno.

Dydy hi chwaith ddim yn bosib defnyddio’r maes parcio yn sgil mwd.

Maes parcio Cae Peips a chyflwr yr ystafelloedd sydd ar agor yn y prif adeilad

Cafodd Gŵyl Hongian ei sefydlu yn 2022, a phobol yn dod o bell ac agos i ddringo a cherdded yn yr ardal.

Roedd Cae Peips yn cael ei ddefnyddio fel maes pebyll, ac roedd y cyfleusterau yn y prif adeilad ar gael i’r gwersyllwyr.

Ond yn sgil cyflwr yr adeilad, mae’r trefnwyr a’r gwirfoddolwyr ifanc yn rhybuddio na fydd hi’n bosib cynnal yr ŵyl eleni, fyddai’n debyg o gael ei chynnal ym mis Mai, oni bai bod gwaith brys yn cael ei wneud i wella’r adeilad.

“Rydyn ni wedi gofyn i Gyngor Gwynedd sortio’r adeilad, maen nhw’n gwrthod gwneud ac maen nhw’n gofyn pam ein bod ni angen sortio’r adeilad – mae o’n eithaf amlwg pam, mae’r wal [ddringo] yn pydru, dydy hi ddim yn bosib ei defnyddio a dydy o ddim yn dda iawn i iechyd chdi, fyswn i ddim yn dweud,” meddai Owen Jones, sy’n 15 oed ac yn aelod o’r clwb dringo ac un o wirfoddolwyr yr ŵyl, wrth golwg360.

“Mae Cyngor Gwynedd angen dod lawr a gweld beth sy’n bod arno fo, wedyn sortio’r broblem.”

Fe wnaeth Owen Jones a gweddill y gwirfoddolwyr waith ar y prif adeilad yn 2022, er mwyn iddo fod yn addas i groesawu pobol i’r Ŵyl Hongian gyntaf.

Mae’r gwaith hwnnw yn teimlo fel “gwastraff amser” nawr, gan fod yr adeilad yn mynd o ddrwg i waeth, meddai.

“Mae [Gŵyl Hongian] yn rhywbeth sy’n dod ag enw da i Blaenau.

“Mae o ychydig bach yn drist bod Cyngor Gwynedd methu sylwi hynna.

“Maen nhw’n pwysleisio’u bod nhw eisiau i lefydd fel Blaenau lwyddo efo pobol ifanc, wedyn maen nhw’n gwneud hyn. Mae o’n hollol wirion.”

Gwirfoddolwyr ifanc Clwb Dringo Hongian wrthi’n tacluso’r safle ar gyfer yr ŵyl ddiwethaf

‘Y graig yn cael ei dinistrio’

Ychwanega Cian Clinc, aelod 17 oed o’r clwb dringo, fod yr ŵyl yn gyfle unigryw i ddod â chymunedau Blaenau, Gwynedd a Chymru ynghyd i ddringo.

“Oherwydd y dinistrio sy’n digwydd gan y glaw a’r adeilad ddim yn ddigon saff, dydyn ni ddim [yn debygol] o fedru’i gael o flwyddyn yma, sy’n drist,” meddai.

“Os fysa Cyngor Gwynedd yn tynnu’u socks fyny, dod yma a gweld pam ein bod ni angen trwsio fo, fysa fo’n help mawr i ni.”

“Mae’r ffaith bod Gŵyl Hongian yn [debygol o] gael ei ganslo, dydy o ddim jyst yn drist bod ni methu dringo, ond mae o’n dangos y neges ein bod ni methu bod yn solat a gwneud o bob blwyddyn, felly fydd pobol yn chwilio am lefydd eraill i fynd ac yn colli gobaith ynom ni,” ychwanega Ioan Roberts, sy’n 16 oed.

“Hon ydy’r unig graig tu mewn sydd gennym ni [yn yr ardal], ac mae hon yn cael ei dinistrio hefyd.

“Hyd yn oed heb Gŵyl Hongian, a fysa fo’n grêt cael o’n ôl, ond mae o’n agor drysau i lot o bethau newydd eraill.”

Dywed Eban Davies, sydd hefyd yn 16 oed, fod y wal agosaf bron i awr i ffwrdd.

“Os ydy hi’n bwrw yn fan yma mae [Cae Peips] yn rhywle hawdd i fynd heb orfod mynd tu allan yn y glaw – ond rŵan mae’r glaw yn dod mewn i fan hyn!” meddai.

‘Ased i gwmni gwirfoddol’

Eglura Rhys Roberts, sy’n trefnu’r ŵyl ac yn gyfrifol am y clwb dringo, eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i dalu rhent am yr adeilad oherwydd ei gyflwr, ond ei bod hi’n bryd i Gyngor Gwynedd wrando ar bobol ifanc Ffestiniog.

Rhys Roberts

“Mae gwirfoddolwyr ifanc wedi dod at ei gilydd i drwsio’r safle am ddim, rydyn ni wedi adeiladu wal ddringo gan wirfoddolwyr,” meddai Rhys Roberts.

“Mae o’n ased i gwmni gwirfoddol, clwb dringo gwirfoddol ac rydyn ni angen achub ased ni rŵan.

“Mae o’n dod â phobol ifanc at ei gilydd, yn cyfrannu at y gymuned, mae o’n un o werthoedd Cyngor Gwynedd i gynnwys pobol ifanc i fod yn weithgar yn eu cymunedau – mae’r hogiau ifanc yma’n gwneud hynna ers dwy flynedd ac maen nhw’n cael eu hanwybyddu gan Gyngor Gwynedd.

“Felly rydyn ni’n galw ar Gyngor Gwynedd i ddod i ‘Stiniog i ddod i weld y sefyllfa, a stopio anwybyddu pobol ifanc Blaenau Ffestiniog.”

Arwydd ‘Ein Plant Ein Cymuned Ein Dyfodol’ ar ffens Cae Peips

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd.