Mae Garry Monk, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr Cambridge United.

Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd i’w gadw gyda’r clwb tan o leiaf 2026.

Chwaraeodd e i’r Elyrch am fwy na degawd cyn camu i swydd y rheolwr, gyda pherfformiad gorau’r tîm o dan ei arweiniad yn dod yn ystod ei unig dymor llawn gyda’r clwb, wrth iddyn nhw orffen yn wythfed yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ers hynny, bu’n rheolwr ar Leeds, Middlesbrough, Birmingham a Sheffield Wednesday.

Dyma’i swydd gyntaf yn rheolwr ers Tachwedd 2020.

Mae’n olynu Neil Harris, cyn-reolwr Caerdydd, gafodd ei benodi’n rheolwr Millwall fis diwethaf.

Dywed y clwb mai Garry Monk oedd y dewis “unfrydol” ar gyfer y swydd.