Devils Caerdydd gafodd y fuddugoliaeth o 2-1 yn dilyn gornest agos yn erbyn Caps Caeredin yng Nghaerdydd nos Sul.

Daeth y fuddugoliaeth i’r Cymry er gwaethaf perfformiad campus gan gôl-warchodwr yr ymwelwyr, Carsen Chubak, oedd wedi arbed 62 ergyd allan o 64 ar y noson.

Un eiliad yn brin o 12 munud gymerodd hi, serch hynny, i’r Devils sgorio am y tro cyntaf a hynny diolch i Luke Piggott.

Lai na saith munud wedi dechrau’r ail gyfnod, tarodd yr ymwelwyr yn ôl wrth i Brandon Thompson a Trevor Gerling gyfuno i unioni’r sgôr.

Aeth y Devils ar y blaen unwaith eto yn eiliadau ola’r ail gyfnod wrth i bas Joey Martin ddarganfod Andrew Hotham o flaen y rhwyd.

Mae dwy fuddugoliaeth allan o ddwy dros y penwythnos yn golygu bod gan y Devils flaenoriaeth o saith pwynt erbyn hyn ar frig y tabl.