Roedd y Cymro Luke Rowe yn allweddol i lwyddiant Team Sky, wrth i Pete Kennaugh ddod i’r brig yn ras ffordd y Great Ocean yn Awstralia.
Aeth Kennaugh o Ynys Manaw ar y blaen gyda 10km yn weddill o’r ras, gan adeiladu blaenoriaeth o 20 eiliad i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Fe allai Rowe fod wedi gwibio i’r llinell derfyn ar ei ben ei hun, ond fe bwyllodd er mwyn cynorthwyo Kennaugh tua’r diwedd.
Ar ddiwedd y ras, talodd Kennaugh deyrnged i Rowe: “Rhaid i fi ddiolch i Luke, mewn gwirionedd,” meddai wrth wefan Team Sky.
“Drwy gydol y ras, roedd e’n dweud wrtha i am bwyllo. Es i i fyny’r ffordd gyda chylch yn weddill ond ar unwaith, fe ddywedodd e ‘Eistedda lan, dyw e ddim yn mynd i weithio’, ac fe bwyllodd fi drwy gydol y ras.”