Roedd perfformiad gorau Devils Caerdydd oddi cartref y tymor hwn yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 3-0 dros y Nottingham Panthers nos Sadwrn.

Ben Bowns oedd seren y noson wrth iddo arbed 32 o ergydion, tra bod gan Joey Martin ran ym mhob un o goliau’r Cymry.

Jake Morissette sgoriodd gôl gynta’r Devils yn yr ail gyfnod wedi 32 o funudau.

Yn dilyn ail gyfnod hesb, ymestynnodd y Devils eu mantais ymhellach yn y trydydd cyfnod wrth i Leigh Salters ddarganfod y rhwyd wedi bron i 50 munud gyda chymorth Martin, yn dilyn pas gan Gleason Fournier.

Daeth trydedd gôl y Devils ddwy funud yn ddiweddarach, wrth i Martin a Guillaume Doucet gyfuno ar gyfer gôl rhif 32 y tymor hwn i Doucet.

Cafodd Bowns ei enwi’n seren yr ornest, yn bennaf gan mai ef yw’r gôl-warchodwr cyntaf y tymor hwn i atal y Panthers rhag sgorio ar eu tomen eu hunain.

Bydd y Devils yn croesawu Capitals Caeredin i’r Babell Fawr Las am 6 o’r gloch nos Sul, wrth iddyn nhw geisio adeiladu ar eu mantais o bum pwynt dros y Braehead Clan ar frig y gynghrair.