Roedd pedair gôl Guillaume Doucet yn ddigon i sicrhau lle Devils Caerdydd yn rownd gyn-derfynol y Cwpan Her, wrth iddyn nhw guro’r Dundee Stars o 7-6 yng Nghaerdydd nos Fercher.

Gleason Fournier oedd y sgoriwr cyntaf wedi pedair munud wrth i chwaraewr-hyfforddwr y Devils, Andrew Lord ei gynorthwyo.

Doucet sgoriodd ail gôl y Cymry wedi naw munud, a Joey Martin a Leigh Salters yn ei gynorthwyo.

Tarodd yr ymwelwyr yn ôl wedi 13 munud drwy Mikael Lidhammar, ond dwy funud yn unig gymerodd hi i’r Devils ymestyn eu mantais unwaith eto ar ddiwedd y cyfnod cyntaf diolch i Jake Morissette.

Lai na munud wedi dechrau’r ail gyfnod, sgoriodd y Devils eu pedwaredd gôl wrth i Joey Haddad ddarganfod y rhwyd.

Tarodd y Stars yn ôl bron ar unwaith wrth i Justin Faryna rwydo wedi 21 o funudau.

A’r sgôr yn 4-2, daeth ail gôl i Doucet o fewn 40 eiliad wrth iddo ddawnsio’i ffordd o gwmpas y gôl-warchodwr Trevor Koenig.

Daeth trydedd gôl y Stars yn fuan wedyn drwy Lidhammar unwaith eto, a’r sgôr yn 5-3 ar ddiwedd yr ail gyfnod.

Manteisiodd y Stars ar yr eilyddio yn y gôl wrth i Mike Will gymryd lle Ben Bowns, a buan y tarodd Faryna y pyc heibio’r gôl-warchodwr newydd i’w gwneud hi’n 5-4 a chynnig rhywfaint o obaith i’r Albanwyr.

Roedd hi’n gyfartal 5-5 wedi 47 o funudau wrth i Brett Switzer ddarganfod y rhwyd i’r Albanwyr, ond lai na hanner munud yn ddiweddarach, roedd Doucet wrthi unwaith eto i adfer mantais y Cymry.

6-6 oedd hi wrth i Faryna sgorio unwaith eto wedi 52 o funudau.

Ond daeth y fuddugoliaeth yn y pen draw wrth i Doucet sgorio’i bedwaredd gôlwedi 59 munud i’w gwneud hi’n 7-6 ar y noson, a 10-6 dros y ddau gymal.

Bydd y Devils yn herio’r Belfast Giants yn y rownd gyn-derfynol, a’r cymal cartref yng Nghaerdydd ar ddydd Sul, Chwefror 7 am 6 o’r gloch.