Bydd 2020 yn cael ei gofio gan lawer iawn o bobl am amser hir iawn… ond i Elfyn Evans mae 2020 wedi bod yn flwyddyn i’w chofio, a hynny er gwaethaf colli pencampwriaeth y byd o wyth pwynt yn unig.

Roedd 2020 i fod yn dymor hir gyda 14 rali ledled y byd… o Sweden i’r Ariannin, i Seland Newydd a Japan.

Fodd bynnag, ar ôl tair rownd yn unig, fe wnaeth y pandemig byd-eang roi stop ar bopeth… gan gynnwys chwaraeon rhyngwladol.

Rhaid oedd aros tan fis Medi – bron i chwe mis yn ddiweddarach – cyn i’r tymor ailddechrau yn Estonia…. ac yn lle 14 rali roedd bellach dim ond 7 yn y frwydr am bencampwriaeth y byd.

Doedd Elfyn Evans ddim yn mynd mewn i’r tymor fel y ffefryn o unrhyw fath ar gyfer y bencampwriaeth.

Mae’n anodd iddo gael ei ystyried yn ffefryn pan mai ei gyd-yrrwr yn nhîm Toyota Gazoo Racing yw Sébastien Ogier, pencampwr y byd ar chwe achlysur, a’r ffefryn mawr.

Ymhlith y ffefrynnau eraill roedd Ött Tänak, pencampwr 2019, a Thierry Neuville, sydd wedi bod yn ail yn y bencampwriaeth y bum gwaith!

Na, doedd dim llawer iawn o bobl tu hwnt i Ddolgellau yn enwi Elfyn fel y fferfyn!

Dechrau da

Car Elfyn Evans yn hedfan

Cafodd Elfyn ddechrau da iawn i’r tymor gyda thrydydd safle yn rali gyntaf y flwyddyn ym Monte Carlo.

Ond yn ail rali’r flwyddyn yn Sweden, fe ddangosodd e go iawn ei fod e’n gallu cystadlu gyda’r goreuon.

Gwnaeth y fuddugoliaeth hon yn Sweden, un gwbl ddominyddol yn yr eira, neidio Elfyn a’i gyd-yrrwr o Loegr, Scott Martin, i frig y tabl pwyntiau.

Pedwerydd safle ym Mecsico wedyn, gyda’r fuddugoliaeth i Ogier yn y Toyota Yaris arall…. gan adael Elfyn yn ail yn y tabl cyn i’r pandemig roi stop ar bethau.

Ar ôl haf hir, Estonia oedd y rali gyntaf ar ôl y saib gorfodol, a chanlyniad boddhaol yno yn cadw Elfyn yn y frwydr.

Twrci

Ar y lôn i lwyddiant draw yn Nhwrci

Rali Twrci oedd hi pan wnaeth pethau ddechrau swingio o blaid y dyn o Ddolgellau.

Mae rali Twrci yn ddrwg-enwog am fod yn anodd a chaled iawn ar y ceir a’r gyrwyr.

Ond fe wnaeth Elfyn ddangos ei ddoniau… a phwysicach fyth, fe ddangosodd e ei bwyll a hunanreolaeth o dan bwysau mawr.

Cafodd Ött Tänak grash yn y ei Hyundai i20 yn gynnar yn y rali a chafodd Sébastien Ogier lu o broblemau… ond peidiwch meddwl fod hynny wedi gadael rhwydd hynt i Elfyn – roedd rhaid iddo fe frwydro i’r eithaf drwy gymal mwya’ brawychus y flwyddyn; Çetibeli.

Dim unwaith ond ddwywaith – a wnaeth e hynny gyda steil i fynd ymlaen i ennill y rali.

Rownd derfynol gyffrous

Yna, fe wnaeth sicrhau’r 4ydd safle yn rali Italia Sardegna sicrhau rownd derfynol gyffrous i ffans ralio: gydag Elfyn yn mynd mewn i’r rownd derfynol ym Monza (yr Eidal) gyda mantais o 14 pwynt dros Ogier.

Ond yn anffodus, doedd ffawd ddim am wenu ar y Cymro ym Monza.

Roedd y tywydd yng ngogledd yr Eidal yn arw iawn, gyda glaw trwm, eira ac iâ yn bla i’r gyrwyr.

Yn ystod Cymal 11 llithrodd Elfyn oddi ar y ffordd ac i lawr llethr serth… a dyna ni – un camgymeriad bach bach ar ffordd lithrig ar y naw. A hynny wedi costio pencampwriaeth y byd… i Elfyn a Chymru.

Aeth Sébastien Ogier ymlaen i ennill y rali – gydag Elfyn yn ei rybuddio am y perygl lle aeth oddi ar y ffordd.

Dyma’i seithfed pencampwriaeth – sy’n gamp ragorol.

Mae e nawr dim ond dwy bencampwriaeth tu ôl i’r meistr, Sébastien Loeb.

Edrych yn ôl… ac ymlaen

Fe fydd profiadau Rali Monza yn aros gydag Elfyn am amser hir – ond mae 2020 ddal wedi bod y flwyddyn i gofio i’r Cymro.

Mae e wedi dangos bod e’n gallu ralio gyda’r gorau oll ac mae e’n gallu bod yn gyson a chadarn – a dyna be’ sydd angen i ennill pencampwriaethau.

Does dim rhaid i’r byd ralio aros yn hir iawn cyn digwyddiad cyntaf 2021: fe fydd y tymor yn ailddechrau gyda Rali Monte Carlo ym mis Ionawr.

Fel mae’n sefyll, fe fydd 2021 yn dymor ‘arferol’ gyda 12 rali a lot mwy o gyfleoedd i Evans ddangos ei allu.

Bydd profiadau… a’r boen… o dymor 2020 yn helpu Elfyn i wella eto fyth, gobeithio.

Hefyd, bydd yn cael ystyried yn un o’r ffefrynnau mawr nawr ymysg y gwybodusion ralio’r byd.

Dylen ni fod yn hyderus felly, er gwaetha’r siomedigaeth eleni, y gall Elfyn Evans fod yn bencampwr y byd cyntaf Cymru yn y dyfodol! Amdani Elfyn!