Jamal Lowe oedd arwr y gêm wrth i Abertawe ennill 2-0 yng Nghaerdydd y pnawn yma – gyda gôl ganddo yn yr hanner cyntaf ac un arall yn yr ail.

Prin fod Caerdydd wedi creu unrhyw gyfle gwerth sôn amdano, a chafodd eu chwaraewr canol cae, Joe Ralls, ei anfon o’r cae am ail drosedd ar ôl 67 munud.

Aeth Abertawe ar y blaen ar ôl chwe munud wrth i Lowe benio’r bêl i mewn i’r rhwyd o chwe llath trwy ddwylo golwr Caerdydd, Alex Smithies.

Hyd yn oed heb y cefnogwyr, daeth yr elyniaeth chwerw rhwng y ddau glwb i’r amlwg gyda gwrthdaro rhwng Kieffer Moore a Marc Guehi a chafodd y ddau rybudd.

Roedd chwarae budr yn tarfu’n gyson ar rediad y gêm, a thorrwyd Caerdydd i lawr i 10 dyn hanner ffordd drwy’r ail hanner ar ôl i Ralls ruthro am Korey Smith, ac yntau eisoes wedi cael cerdyn melyn am daro Jay Fulton yn union wedi hanner amser.

Cafodd ail gerdyn melyn ar unwaith, er y gallai’n hawdd fod wedi haeddu cerdyn coch ar unwaith oherwydd gwylltineb ei dacl.

Cafodd y gêm ei setlo’n ddiamwys ar ôl 72 munud gyda gôl wych arall Jamal Lowe pan lwyddodd i ergydio’r bêl 18 llath i rwyd y tîm cartref.