Mae trefnwyr ras seiclo’r ‘Tour of Britain’ wedi cadarnhau y bydd Syr Bradley Wiggins yn cymryd rhan yn y ras, sy’n dechrau ym Miwmares ddydd Sul.
Fe fydd yn cystadlu i dîm newydd sy’n dwyn ei enw ei hun.
Wiggins oedd yn fuddugol yn y ras yn 2013, ac roedd yn drydydd yn y ras y llynedd, ac fe fydd yn dychwelyd er iddo newid ei ffocws o’r ffyrdd i’r trac mewn ymgais i ennill pumed medal aur Olympaidd yn Rio de Janeiro y flwyddyn nesaf.
Pe bai’n llwyddo i ennill y fedal aur yn Rio, fe fyddai’n torri’r record Brydeinig o wyth o fedalau Olympaidd.
Bydd y ‘Tour of Britain’ yn gorffen yn Llundain ar Fedi 13.