Elfyn Evans
Mae Elfyn Evans wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd yn gallu gwella ar ei berfformiadau llynedd wrth iddo baratoi am ras gyntaf Pencampwriaeth Rali’r Byd ym Monte Carlo.

Bydd rali gyntaf y tymor yn dechrau fory, gyda’r Cymro yn gobeithio gwella ar ei berfformiad llynedd pan orffennodd yn chweched yn y ras agoriadol.

Nid Elfyn Evans fydd yr unig Gymro ym Monte Carlo heno chwaith – bydd y gantores Elin Fflur yno hefyd gan ei bod hi’n perfformio yn y seremoni agoriadol!

Anelu am bodiwm

Llwyddodd Elfyn Evans i orffen yn wythfed ar ddiwedd ei dymor llawn cyntaf ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd llynedd, gan ddod yn bedwerydd yn ralïau Mecsico a’r Almaen.

Mae eisoes wedi cyfaddef wrth Golwg ei fod yn awyddus i gyrraedd y podiwm yn rhai o’i rasys eleni, yn ei ail dymor gydag M-Sport.

“Dw i’n edrych ’mlaen yn fawr at y flwyddyn yma,” meddai Elfyn Evans. “Fe gawson ni dymor cyntaf gwych, fe ddysgon ni lot ac mi gawson ni brofiad y digwyddiadau yna.

“Bydd ‘na tipyn o waith caled – dadansoddi’r holl ddata ‘da ni wedi casglu o’r holl ralïau – ond dw i’n hyderus y gallwn ni barhau i wella ein cyflymder a’n perfformiad ni ym mhob ras.”

Ar ôl ymddeoliad Mikko Hirvonen fe fydd gan Elfyn Evans yrrwr newydd fydd yn rasio wrth ei ymyl yn M-Sport, Ott Tanak o Estonia.

Bydd y pencampwr byd Sebastian Ogier yn gobeithio ennill am y drydedd flwyddyn yn olynol gyda’i dîm Volkswagen Motorsport, tra bod Kris Meeke o Ogledd Iwerddon yn rasio i dîm Citroen Total eleni.