Jamie Donaldson
Fe fydd Jamie Donaldson yn herio’r Americanwr Patrick Reed am le yn wyth olaf Pencampwriaeth Chwarae Gornest Volvo yng Nghlwb Llundain heddiw.
Mae Donaldson, Reed, Jonas Blixt a Paul Casey i gyd ar ddau bwynt yng Ngrŵp McCormack ar ddechrau’r diwrnod olaf.
Bydd Donaldson a Reed yn herio’i gilydd am y tro cyntaf ers i’w timau fynd benben â’i gilydd yng Nghwpan Ryder yn Gleneagles, pan darodd y Cymro yr ergyd fuddugol i gipio’r gwpan i Ewrop.
Roedd Donaldson yn fuddugol o 3&2 yn erbyn Jonas Blixt ddoe, tra bod Reed wedi curo Paul Casey o 2&1.
Yn y grwpiau eraill, mae un arall o sêr Ewrop yng Nghwpan Ryder, Victor Dubuisson wedi ennill dwy gêm allan o ddwy hyd yn hyn, tra bod Shane Lowry a Pablo Larrazabal yn herio’i gilydd am y lle arall yng Ngrŵp Gabrielsson.
Fe allai Dubuisson wynebu’r Gwyddel Graeme McDowell, ei bartner yng Nghwpan Ryder yn yr wyth olaf ond mae’r grŵp hwnnw’n ben agored.
Yng Ngrŵp Palmer, mae Henrik Stensson ar y brig tra bod George Coetzee o Dde Affrica yn ail.