Cystadlu i Gymru
Mae Aled Siôn Davies wedi dweud bod ennill y fedal aur yn y siot yn nosbarth F42 ym Mhencampwriaeth Athletau Ewrop yn Abertawe yn gyfle i orffen y tymor ar nodyn uchel.
Cipiodd yr aur am dafliad o 13.66 metr, o flaen Frank Tinnemeier o’r Almaen (12.51 metr) a Mladen Tomic o Groatia (12.20 metr).
Davies yw deilydd record y byd yn y siot ar hyn o bryd yn dilyn tafliad llwyddiannus o 14.71 metr ym Mhencampwriaeth y Byd yn Lyon y llynedd.
Ond fe fu’n brwydro yn erbyn anafiadau ddiwedd y tymor diwethaf, ac fe benderfynodd gystadlu yn y ddisgen yn unig yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Bryd hynny, fe gafodd siom wrth ennill y fedal arian.
Yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012, enillodd y fedal efydd yn y siot gyda thafliad o 13.78 metr.
Ymateb Aled Siôn Davies i’w fuddugoliaeth:
Ar ddiwedd y gystadleuaeth heddiw, dywedodd wrth golwg360: “Mae wedi bod yn dymor hir a haf efo llawer o emosiwn.
“O’n i wedi colli mas ar [fedal aur] yng Ngemau’r Gymanwlad ond wedi dod yma nawr i gael gorffen y tymor ar uchafbwynt o ennill aur yn Abertawe.
“O’n i’n nerfus iawn yn mynd i mewn iddi i ddweud y gwir.
“Do’n i ddim wedi ennill yn dda, a ddim wedi ennill yn brydferth, ond ennill yw ennill ar ddiwedd y dydd.
“Dw i wedi cael gwared o’r pressure nawr a chael fy medal aur.”
Bydd cyfle i Aled Siôn Davies ymlacio cyn iddo gystadlu yn y ddisgen ddydd Sadwrn, ac fe ddywedodd wrth golwg360 ei fod e’n hoff o wrando ar gerddoriaeth hip-hop a rap cyn cystadlu gan ei bod yn gerddoriaeth “aggressive”, meddai, “sy’n fy ngwneud i’n ‘pumped-up’.”