Mae Marcel Hug wedi canmol Abertawe yn dilyn ei ail fedal aur ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC.

Enillodd y ras 800 metr heddiw wrth orffen mewn 1:37:77 i gipio’i ail fedal aur yn dilyn ei lwyddiant yn y 1500 metr yn nosbarth T54 neithiwr.

Yn gynharach yn yr wythnos, enillodd fedal efydd yn y 400 metr yn nosbarth T54.

Ar ddiwedd ei ras heddiw, dywedodd wrth golwg360: “Mae’r trefniadau yma’n dda, y dorf yn dda ac mae’n le braf iawn.

“Dw i’n teimlo’n wych wedi’r 1500 metr ddoe, a nawr yr 800 metr hefyd.

“Roedd yn gystadleuaeth dda heddiw.”

Yn wahanol i ddechrau’r wythnos, roedd yr athletwyr yn cystadlu yn y glaw ac ar drac gwlyb, ond dywedodd Hug ei fod e wedi paratoi ar gyfer yr elfennau.

“Ro’n i wedi paratoi gyda menyg arbennig a phapur tywod felly ches i ddim problem yn y glaw.

“Roedd y trac ychydig yn llithrig ond wnaeth e ddim effeithio gormod arna i.”

Bydd ei bedwaredd ras ddydd Sadwrn yn y 5,000 metr, ac mi fyddai honno wedi bod yn un o uchafbwyntiau’r wythnos ar y trac pe bai David Weir wedi gallu cystadlu yn y ras.