Bradley Wigley yn rhedeg yn y 100 metr
Gorffennodd Bradley Lee Wigley yn drydydd yn y ras 200 metr yn nosbarth T38, ond nid oedd wedi ennill medal gan mai tri yn unig oedd yn cystadlu.
Cwlbhaodd y Cymro 17 oed y ras mewn 25.70 eiliad ar ei ymgais gyntaf yn cystadlu dros Brydain.
Lorenzo Albaladejo Martinez o Sbaen (24.42 eiliad) gipiodd y fedal arian, tra bod Mykyta Senyk o’r Wcrain yn fuddugol wedi iddo orffen y ras mewn 23.99 eiliad.
Ers blwyddyn yn unig y mae Wigley, sy’n bêl-droediwr brwd, wedi bod yn cystadlu yn y 200 metr ac fe gipiodd e fedal efydd yn y 100 metr yr wythnos hon.
Ar ddiwedd y ras, dywedodd wrth golwg360: “Ges i fedal yn y 100 metr, ond o’n i’n teimlo y gallen i fod wedi gwneud yn well gyda hon.”
Cafodd Wigley ddechreuad siomedig i’r ras, gan iddo gredu fod y dechreuad yn un annilys.
Fel yr eglurodd: “Ro’n i’n meddwl ei fod e’n ddechreuad annilys. Dyna pam wnes i stopio. Ond fe wnes i gario ’mlaen wedyn.”