Rhys Jones wedi'r ras 100 metr ddydd Mawrth
Doedd dim medal i Rhys Jones yn y 200 metr yn nosbarth T37 y prynhawn ma yn Abertawe, yn dilyn ei lwyddiant wrth gipio medal efydd yn y 100 metr ddydd Mawrth.

Gorffennodd y Cymro’n bedwerydd yn y ras heddiw, ond fe orffennodd yn ei amser gorau’r tymor hwn – 24.96 eiliad.

Andriy Vdovin o Rwsia oedd yn fuddugol (23.23 eiliad) tra bod ei gydwladwr Chermen Kobesov (23.40) yn ail, ac Andriy Onufriyenko (24.62) yn drydydd.

Dros y pellter hwn yn y gorffennol, gorffennodd Jones yn wythfed yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012 gan orffen mewn 24.68 eiliad.

Roedd e’n wythfed hefyd ym Mhencampwriaeth y Byd yn Lyon y llynedd, gan orffen y ras mewn 24.37 eiliad.

Dim ond yn y 100 metr y cystadlodd yng Ngemau’r Gymanwlad eleni.

Ar ddiwedd y ras, dywedodd Rhys Jones wrth golwg360: “Dyma fy mherfformiad gorau’r tymor hwn, alla i ddim cwyno o gwbl.

“Wnes i daflu popeth ati a cholli allan ar fedal o drwch blewyn.

“Dydy pedwerydd ddim yn ddelfrydol ond dwi ddim yn cwyno’n dilyn y flwyddyn dw i wedi’i chael.”