Cipiodd Laura Sugar ei hail fedal efydd ym Mhencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC yn Abertawe y prynhawn ma.

Gorffennodd hi’r ras 200m yn nosbarth T44 mewn 28.75.

Irmgard Bensusan o’r Almaen oedd yn ail wrth orffen mewn 27.22 eiliad, tra bod Marlou van Rhijn yn fuddugol gydag amser o 26.89 i gipio’i ail fedal yr wythnos hon yn dilyn ei llwyddiant yn y 100 metr.

Ar ddiwedd y ras, dywedodd Laura Sugar wrth golwg360: “Rwy wirioneddol wrth fy modd.

“Ces i fedal efydd yn y 100 metr y diwrnod o’r blaen ond ro’n i eisiau ennill hon hefyd, ro’n i’n ysu i wneud yn dda.

“Ro’n i am ddechrau’n gryf ac ro’n i’n gwybod fod yr athletwyr ar lafnau’n mynd i ddal i fyny.

“Roedd y gwynt yn gryf iawn ac fe gymerodd y llinell oes i ddod!”

Laura Sugar oedd enillydd medal gyntaf Prydain yr wythnos hon yn dilyn ei llwyddiant yn y 100 metr ddydd Mawrth.

Yn gyn-chwaraewraig hoci, trodd hi at athletau’n gymharol ddiweddar a dim ond cyn Pencampwriaethau’r Byd yn Lyon y llynedd y cafodd hi ei rhoi mewn dosbarth, gan orffen yn bumed yn 100 metr a phedwerydd yn y 100 metr.

Bydd cyfle arall am fedal ddydd Gwener pan fydd hi’n cystadlu yn y naid hir am 6.15yh.

Mae’n siwr y bydd ei sylw’n troi at sicrhau lle yn y Gemau Paralympaidd wedi’r wythnos hon ond yn y cyfamser, mae hi’n dechrau swydd newydd yr wythnos nesaf fel athrawes ymarfer corff yng Nghaerlyr.

Marlou van Rhijn

Dywedodd yr Iseldirwraig wrth golwg360 ar ddiwedd y ras: “Dyma beth ro’n i’n gobeithio amdano.

“Y 200 metr yw fy mhrif gamp. Mae ennill medal arall yn golygu popeth i fi.

Yn ddiweddar, cafodd hi gyfle i roi gwers redeg i Molly Hopkins o Gwm Tawe.

Am y profiad hwnnw, dywedodd: “Mae Molly yn anhygoel. Ro’n i wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd a hi yn Berlin.

“Mae hi’n fy atgoffa ohonof fi fy hunan, a sut ro’n i’n arfer bod pan o’n i’r un oedran.

“Mae’n bwysig iawn codi proffil y gamp gan nad oedd pobol yn y gorffennol yn gwybod am y para-athletau ond mae’n cael mwy o sylw ar y teledu nawr ac mae hynny’n bwysig iawn.”