Mae Jordan Howe wedi ennill ail fedal efydd yn Abertawe, y tro hwn yn y 200 metr yn nosbarth T35 wedi iddo orffen y ras mewn 28.73 eiliad.

Dimitrii Safronov o Rwsia oedd yn gyntaf (25.86) a Iurii Tsaruk o’r Iwcrain yn ail (26.18).

Mae Howe ychwanegu at y fedal efydd enillodd e yn y 100 metr yn nosbarth T35 ddydd Mercher.

Cafodd Howe ei eni yng Nghaerdydd ac roedd e’n arfer nofio cyn symud i’r byd athletau.

Ymddangosodd am y tro cyntaf yn Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012, lle wnaeth e orffen yn seithfed yn y 100 metr gydag amser o 13.69.

Ond wnaeth e ddim dechrau yn y 200 metr bryd hynny.

Dywedodd ar ddiwedd ei ras: “Alla i ddim gofyn am lot mwy na dwy fedal efydd.

“Mae rhagor i ddod gen i yn y dyfodol.”