Enillodd Bradley Wigley fedal efydd yn y ras 100m yn nosbarth T38 yn Abertawe y prynhawn ma.

Gorffennodd y ras mewn 12.07 eiliad, dim ond 0.05 yn arafach na Lorenzo Albaladejo Martinez o Sbaen enillodd y fedal arian.

Mykyta Senyk enillodd y fedal aur wrth orffen y ras mewn 11.74 eiliad.

Ar ddiwedd y ras dywedodd Wigley ei fod yn anelu at sicrhau ei le yn y Gemau Paralympaidd nesaf.

Dywedodd: “Dw i’n falch iawn gyda’r canlyniad ac yn edrych ymlaen at gystadlu yn y 200 metr.

“Fy uchelgais yn y tymor hir yw cyrraedd y Gemau Paralympaidd yn Rio a dw i’n credu y bydda i’n gallu rhedeg ras mewn 11 eiliad yn y dyfodol.”