Cipiodd Rhys Jones y fedal efydd yn ras y 100 metr yn nosbarth T37, gan ychwanegu at y fedal efydd enillodd e yn Glasgow ddechrau’r mis.

Gorffennodd y ras mewn 12.08 eiliad, amser sydd 0.05 eiliad yn arafach na’i amser yng Ngemau’r Gymanwlad.

Andrey Vdovin o Rwsia (11.49) gipiodd y fedal aur, tra bod ei gydwladwr Chermen Kobesov wedi cipio’r arian (11.63).

Mae Jones wedi cael nifer o anafiadau a llawdriniaeth yn ystod y tymor, ond fe ddywedodd wrth golwg360 pa mor falch yw e o’i lwyddiant yn Abertawe.

Dywedodd: “Dyw medal efydd ddim yn ddrwg! Ro’n i’n edrych i’r sgrin i weld beth oedd y canlyniad – ro’n i’n gwybod ’mod i wedi ennill medal efydd pan glywais i’r teulu’n bloeddio yn y dorf!

“Fe wnes i osod disgwyliad i fi fy hunan i berfformio a dyna wnes i.

“Roedd Glasgow yn arbennig, ond roedd hwn yn fwy arbennig o flaen torf gartref.”