Enillodd Jordan Howe y fedal efydd yn ras y 100 metr yn nosbarth T35 y prynhawn ma.

Gorffennodd y ras mewn 13.23 eiliad.

Yn fuddugol yn y ras roedd Dimitri Safronov o Rwsia (12.73 eiliad) ac yn cipio’r fedal arian roedd Iurii Tsaruk o’r Wcrain, wedi iddo orffen y ras mewn 13.11 eiliad.

Gwnaeth Howe ei ymddangosiad cyntaf ym myd athletau yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012, wedi iddo droi o’r byd nofio.

Yn dilyn y ras, dywedodd Howe: “Roedd yn anhygoel, allwn i ddim bod wedi gofyn am fwy na hyn.

“Rwy wedi cael siom a llawenydd y tymor yma ond dywedodd yr hyfforddwyr a’r meddygon fod ganddyn nhw ffydd ynof fi. Roedd gen i ffydd ynof fi fy hunan.

“Rwy wedi cael cymaint o gefnogaeth yng Nghymru a Phrydain, allwn i ddim gwneud hyn heb y tîm.

“Fe ges i ddechreuad anhygoel, ro’n i’n gwybod y byddwn i’n dechrau’n gyflym.

“Fe gyrhaeddais i 60 metr ac fe wnes i wthio a gwthio.

“Rhaid i fi barchu’r bois eraill – un a dau yn y byd – dw i’n falch i gael medal.”