Mae Laura Sugar wedi ennill y fedal efydd yn y ras 100m yn nosbarth T44 mewn ras oedd yn cynnwys nifer o redwyr cryfa’r byd.
Rhedodd hi ei hamser personol gorau – 13.71 eiliad – i gipio’r trydydd safle, tra bod Marlou van Rhijn o’r Iseldiroedd yn fuddugol ac Irmgard Bensusan yn ail.
Dywedodd Laura Sugar wrth golwg360: “Rwy wir wrth fy modd.
“Ro’n i’n gwybod fod llwyth ohonon ni’n rhedeg amserau tebyg eleni felly es i amdani.
“Mae Marlou van Rhijn yn anhygoel. Dw i’n gwybod ei bod hi’n gorffen yn gryf bob tro.
“Dywedodd fy hyfforddwr, “Gwna’n siwr dy fod yn ennill wedi 60 metr, fe alli di ddod yn olaf ond gwna’n siwr dy fod yn ennill bryd hynny!”