Daeth Jonnie Peacock yn bencampwr triphlyg y prynhawn ma wrth gipio’r fedal aur yn ras y 100m yn nosbarth T44.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu ei fod e’n bencampwr Paralympaidd, y byd ac Ewrop ar yr un pryd.
Gorffennodd Peacock y ras mewn 11.26 eiliad, o flaen yr Almaenwyr Felix Streng (11.53) a Markus Rehm (11.85).
Dywedodd y Sais wrth Golwg360: “Mae dod i Abertawe lle mae’r digwyddiadau’n wych a dod ychydig yn bellach i’r de yn wych.
“Mae perfformio o flaen torf ar eich tomen eich hunan yn wych.”