Gorffennodd Libby Clegg yn ail yn y ras 100m T12 i fenywod, ac mi fydd rhaid iddi aros i glywed a fydd hi yn y rownd derfynol ddydd Mercher.
Daw’r canlyniad ddiwrnod yn unig ar ôl iddi ddarganfod bod ei thywysydd Mikail Huggins wedi cael ei ddewis yn gapten tîm Prydain a Gogledd Iwerddon, wedi i David Weir dynnu allan o’r Pencampwriaethau.
Ac fe fu Clegg ei hun yn sâl yn y dyddiau diwethaf.
Dywedodd hi wrth golwg360: “Dw i ddim wedi bod yn teimlo’n dda yn y dyddiau diwethaf.
“Fe wnes i berfformio cystal ag y gallwn i a dyna’r cyfan alla i ofyn amdano.
“Wedi i fi fod yn teimlo’n sâl, do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Os ydyn ni yn y ffeinal, gwych.
Wrth drafod penodiad ei thywysydd yn gapten ar y tîm, ychwanegodd: “Rwy hollol wrth fy modd fod Mikail wedi cael ei ddewis ond dydy hynny ddim wedi effeithio’n fawr arnon ni.
Dywedodd Huggins wrth golwg360: “Daethon ni allan a thrio rhoi ein perfformiad gorau o dan yr amgylchiadau.
“Dw i’n ei hystyried hi’n bencampwraig go iawn, y ffaith fod hi wedi dod allan a pherfformio.
“Mae gyda fi gyfrifoldebau ychwanegol nawr a dw i’n croesawu hynny’n llwyr.
“Dw i wrth fy modd yn gwneud beth dw i’n ei wneud ac yn falch o gael y cyfle.
“Gobeithio y gall y tîm fod yn falch ohonof.”