Mae’r Gwyddel Jason Smyth wedi ennill medal aur yn y ras 100 metr yn nosbarth T12 yn Abertawe.
Cafodd Smyth ei symud i ddosbarth gwahanol ychydig cyn y gemau o ddosbarth T13 i T12 oherwydd dirywiad yn ei olwg.
Roedd hyn yn golygu ei fod e wedi gorfod rhedeg yn erbyn gwrthwynebwyr annisgwyl heddiw.
Yn y rownd gyn-derfynol heddiw, cymhwysodd wedi iddo rhedeg y ras mewn 11.40 eiliad, ond fe gyflymodd yn y ffeinal a’i gorffen hi mewn 10.78 eiliad.
Dywedodd wrth golwg360: “Dw i’n meddwl ei fod e wedi bod yn anodd. Fe wnes i ddewis pryd i newid dosbarth. Fe benderfynais i wneud e felly alla i ddim rhoi’r bai ar unrhyw un arall.
“Bu’n rhaid i fi gael fy mhen o gwmpas y bois dw i’n cystadlu yn eu herbyn nhw, y diwrnodau dw i ar y trac, jyst popeth wir.
“Dw i ddim yn gwybod beth o’n i’n disgwyl ond roedd e’n anodd yn feddyliol.
“Ddoe, wnes i sylweddoli nad oes ots am T12 neu T13. Fe wna i barhau i drio rhedeg yn gyflym a cheisio parhau i lwyddo mewn digwyddiadau para-athletau.
“Os galla i bontio’r agendor rhwng y prif ffrwd a phara-athletau, beth bynnag yw’r category, yna mae hynny’n lwyddiant personol i fi.”