Yr Americanwr Peter Uihlein sydd ar y blaen ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru yn y Celtic Manor, gyda sgôr o chwe ergyd yn well na’r safon.

Y Cymro Liam Bond, sy’n byw yng Nghasnewydd, oedd ar y brig ar ddechrau’r chwarae heddiw, ond mae wedi colli tair ergyd, ac o’r herwydd ar hyn o bryd mae’n ddwy ergyd y tu ôl i Peter Uihlein.