Nathan Cleverly
Fe fydd y paffiwr, Nathan Cleverly, yn amddiffyn ei wregys pencampwr is-drwm y byd yn Arena Motorpoint, Caerdydd, ar Awst 17.

Ei wrthwynebydd fydd Sergey Kovalev o Rwsia.

Roedd y dyddiad wedi ei bennu yn gynharach yr wythnos hon, ond dim ond heddiw y cyhoeddwyd enw ei wrthwynebydd, a lleoliad y ffeit.

Dyw Sergey Kovalev ddim wedi colli yr un o’i ornestau hyd yn hyn, ac mae’n mynd i fod yn wrthwynebydd caled i’r Cymro – hyd yn oed os yw Cleverly ar ei domen ei hun.