Mae clwb deifio newydd yn agor yn Abertawe’n ddiweddarach y mis hwn.

Mae poblogrwydd y gamp wedi cynyddu’n sylweddol ers i Tom Daley ddod i’r amlwg yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Fe fydd y sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal yn Ysgol Bishop Gore ar Fehefin 21 rhwng 6pm a 7pm, ac fe fydd y sesiwn o dan arweiniad hyfforddwr proffesiynol.

Dywedodd yr hyfforddwr, Benjamin Fox: “Bydd deifio yn Abertawe yn feincnod ar gyfer y gamp yng Nghymru.

“Rydyn ni’n gyffrous i ddod â’r gamp i ddinas sydd â hanes dda o ran campau dŵr.

“Mae ein her o ddod â gwaddol deifio’r Gemau Olympaidd i Gymru yn dechrau fan hyn gyda’n Clwb Deifio Abertawe newydd.”

Ychwanegodd Rheolwr Busnes Rhanbarthol Nofio Cymru, Mark Tancock: “Gyda’r datblygiadau cyffrous diweddar o fewn y clwb, mae hwn wir yn amser cyffrous yn Abertawe.

“Bydd y datblygiadau campau dŵr parhaus yn Abertawe yn parhau i dyfu ac rydym wedi ymroi i gefnogi a sefydlu fframwaith cynaladwy a fydd yn creu llwyddiant yn y tymor hir.”