Leanda Cave
Mae Leanda Cave, pencampwraig treiathlon Ironman y byd 2012, wedi cyhoeddi ei bod yn dioddef o gancr y croen.

Fe wnaeth yr athletwraig, 34 oed, y cyhoeddiad ar ei chyfrif Twitter.

‘‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio eli haul a gwisgwch het.  Cymerwch ofal rhag yr haul o ddifrif,’’ meddai Leanda Cave.

Yn 2012, Cave oedd yr athletwraig gyntaf i ennill yr Ironman a’r Hanner-Ironman yn yr un flwyddyn.

Er iddi gael ei geni yn Lloegr, penderfynodd Cave gynrychioli Cymru a enillodd fedal arian yn y treiathlon yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2002.

Hefyd enillodd y fedal arian i Brydain ym Mhencampwriaethau Ewrop a chafodd ei choroni yn Bencampwraig y Byd treiathlon y flwyddyn honno ym Mecsico.