Nos yfory fe fydd y Gleision yn croesawu Connacht i Barc yr Arfau.

Wedi gwella o anaf i’w droed, mi  fydd Chris Czekaj yn gwneud ei ddechreuad cyntaf y tymor hwn ers mis Awst.

‘‘Roedd y canlyniad yn erbyn Caeredin y penwythnos diwethaf yn un mawr i ni.  Roeddwn wedi chwarae’n dda ac fe wnaethom amddiffyn yn gadarn,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.

‘‘Rydym wedi adeiladu ar ein perfformiadau, ac wedi cipio canlyniadau da ers dechrau’r tymor,’’ ychwanegodd.

Fe fydd wyneb cyfarwydd yn chwarae yn erbyn y Gleision, gyda Dan Parks yn safle’r maswr i Connacht.

‘‘Mae’n chwaraewr o safon uchel, ac rydyn ni’n gyfarwydd ag ef.  Mae’n giciwr da ac mae ei gêm wedi datblygu llawer yn ystod y blynyddoedd,’’ dywedodd Davies.

Tîm y Gleision

Olwyr – Chris Czekaj, Owen Williams, Richard Smith, Gavin Evans (Capten), Harry Robinson, Rhys Patchell a Lewis Jones.

Blaenwyr – Robin Copeland, Rory Watts-Jones, Michael Paterson, James Down, Macauley Cook, Benoit Bourrust, Kristian Dacey a Taufa’ao Filise.

Eilyddion – Rhys Williams, Nathan Trevett, Scott Andrews, Luke Hamilton, Thomas Young, Liam Davies, Ceri Sweeney a Jason Tovey.