Michael Laudrup
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi dweud mai ennill Cwpan Capital One fyddai uchafbwynt ei yrfa.
Bydd Abertawe yn herio Bradford yn Wembley brynhawn Dydd Sul yn rownd derfynol Cwpan Capital One.
Yn ystod ei gyfnod fel chwaraewr a hyfforddwr mae Laudrup wedi bod yn llwyddiannus iawn.
‘‘Rwyf wedi ennill nifer o gystadlaethau fel chwaraewr, ond yn bersonol mae’n fwy o beth i ennill fel rheolwr. Fel chwaraewr rydych yn gwneud eich gorau i chwarae fel tîm. Ond fel rheolwr, chi sy’n rhoi popeth at ei gilydd,’’ meddai Laudrup.
Bydd yr Elyrch yn teithio i Lundain ddydd Sadwrn gyda’r amddiffynnwr Chico Flores ar y bws, serch hynny, mae’n debyg na fydd Flores wedi gwella o’i anaf mewn pryd.