Mae’r cyn-golffiwr, Dave Thomas wedi cael ei enwi’n aelod oes o Daith Ewrop ym myd golff.

Roedd y Cymro 78 oed, sydd bellach yn ddylunydd cyrsiau golff, wedi chwarae mewn pedair Cwpan Ryder rhwng 1959 a 1967, a chynrychiolodd Gymru yng Nghwpan y Bydd 11 o weithiau.

Ar Daith Ewrop, cafodd gêm gyfartal yn erbyn yr Awstraliad Peter Thomson yn Royal Lytham yn 1958, a gorffennodd y daith yn 1966 yn gydradd ail y tu ôl i Jack Nicklaus.

Mae’n enwog erbyn hyn am gyd-ddylunio cwrs y Belfry gyda’r sylwebydd Peter Alliss.

Mae e hefyd yn aelod oes o’r PGA, y corff ar gyfer chwaraewyr golff proffesiynol.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Taith Ewrop, George O’Grady: “Ein camgymeriad ni ydy nad oedden ni wedi rhoi’r wobr hon amser hir yn ôl, ond heddiw rydyn ni’n gwneud yn iawn am y cam.

“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi anrhydeddu Tommy Horton, Brian Huggett a Peter Alliss, ac mae Dave yn y garfan honno wrth helpu i adeiladu’r gêm ym Mhrydain a ledled y byd.”

‘Atgofion melys’

Dywedodd Dave Thomas: “Mae gennyf atgofion melys o’m gyrfa fel chwaraewr ond erbyn 1969, roedd fy nghefn wedi mynd ac roedd rhaid gwneud rhywbeth arall, felly beth wnewch chi?

“Awgrymodd rhywun ddylunio a phensaernïaeth. Roedd Peter Alliss ynghlwm a daethon ni’n ddylunwyr. Pwy fuasai wedi meddwl flynyddoedd yn ddiweddarach y byddwn i’n agos at ddylunio 150 o gyrsiau?

“Rwy wedi gweld sut mae’r gamp wedi tyfu, sut mae Taith Ewrop wedi datblygu a bu’n hyfryd cael bod yn rhan ohono am y 60 o flynyddoedd diwethaf. Mae’n anrhydedd cael derbyn y wobr hon.”