Methodd Caerdydd gyfleon i guro Fulham mewn gêm gartref neithiwr er fod y Llundeinwyr Dinas ddim ond deg dyn wedi i Harry Arter gael cerdyn coch.

Sgoriodd Josh Murphy gyntaf i’r Adar Gleision mewn brwydr rhwng dau glwb ddisgynodd o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Aleksandar Mitrovic sgoriodd i Fulham i ddod a’r sgôr yn gyfartal.

Roedd y gêm yn glos iawn cyn i Harry Arter, oedd ar fenthyg i Gaerdydd y tymor diwethaf, gael ei anfon o’r cae am ddwy drosedd o fewn dau funud.

Dydi Caerdydd ddim yn dîm sy’n cael eu hadnabod am sgorio llawer o goliau – a dyna oedd y canlyniad terfynol nos Wener.

Mae hyn yn golygu fod Caerdydd nawr yn y 10fed safle yn y Bencampwriaeth.