Fe fydd Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn mynd yn ei blaen fel arfer eleni, er gwaethaf yr ansicrwydd a fydd rasys proffesiynol y ‘tour series’ yn rhan o’r digwyddiad ai peidio.
Mae’r ŵyl flynyddol ar gyfer seiclwyr yn y dref glan môr wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae disgwyl rhwng 4,000 i 5,000 o seiclwyr i fod yn rhan o’r digwyddiad rhwng Mai 18 a 27 eleni.
Y llynedd, fe ddychwelodd cymalau’r ‘Tour Series’ i Aberystwyth wedi blwyddyn o fwlch yn 2017, ond mae trefnwyr yr ŵyl yn dweud eu bod nhw “mewn limbo” ar hyn o bryd o ran presenoldeb y gyfres broffesiynol eleni.
Yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Ceredigion, a’u partneriaid, sy’n gyfrifol am ddenu’r rhyddfraint i’r dref, ac mae golwg360 yn deall bod rhaid codi tua £60,000 ar gyfer hynny.
Cynllun B – “rhag ofn”
Ond er y bydd absenoldeb y gyfres – sy’n darparu dwy ras broffesiynol ar gyfer merched a dynion – yn “effeithio” ar amserlen yr ŵyl, ychwanega’r trefnwyr fod ganddyn nhw eisoes “Gynllun B” rhag ofn.
“Fel gŵyl, fe fyddwn ni’n darparu pob un o’r rasys eraill beth bynnag, fel y pencampwriaethau Cymreig sy’n lefel yn is na’r ‘Tour Series’, ond yn dal i fod yn atyniad mawr i ni,” meddai Shelley Childs, aelod o bwyllgor trefnu Gŵyl Seiclo Aberystwyth, wrth golwg360.
“Mae pob diwrnod arall o’r ŵyl yn cael eu trefnu ganddon ni. Mae gan bob diwrnod cyllid ar wahân ac mae’r rheiny eisoes mewn lle ac yn barod i fynd.
“Yr unig ddyfalu yw’r rasys olaf ar y nos Sadwrn, sef y gyfres broffesiynol ar gyfer merched a dynion.”