Mae tri dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’u cyhuddo o gynllwynio i lwgrwobrwyo chwaraewyr criced proffesiynol.
Fe gafodd Nasir Jamshaid, 32, Yousef Anwar, 35, a Mohammed Ijaz, 33, eu harestio ym mis Chwefror 2018 fel rhan o ymchwiliad gan yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) i’r drosedd o fficsio gemau gan fyrddau Bangladesh a Pacistan.
Mae’r tri wedi’u cyhuddo o gynllwynio i gynnig buddion ariannol i chwaraewyr yn Uwch Gynghrair Pacistan, gyda’r bwriad o’u hannog nhw i berfformio’n amhriodol trwy beidio â chwarae’n deg.
Mae’r drosedd yn mynd yn groes i Adran 1 (1) o’r Ddeddf Gyfraith Droseddol 1977, a’r gred ydi i hyn ddigwydd rhwng Tachwedd 1, 2016 a Chwefror 10, 2017.
Mae Yousef Anwar a Mohammed Ijaz hefyd wedi’u cyhuddo o gynllwynio i lwgrwobrwyo chwaraewyr oedd yn cymryd rhan yn Uwch Gynghrair Bangladesh, gan geisio eu perswadio i berfformio yn amhriodol rhwng Tachwedd 1, 2016 a Rhagfyr 6, 2016.
Mae ynadon yn Manceinion heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 15) wedi cyfeirio’r achos i Lys y Goron Manceinion ar gyfer Chwefror 12.