Mae un o arwyr clwb pêl-droed Abertawe, Leon Britton, wedi dychwelyd i ymgymryd â rôl mentora chwaraewyr yn yr academi.
Bydd Britton, sydd yn chwarae i Rydaman yng nghynghrair Cymru South ar hyn o bryd, hefyd ar gael i chwarae i dîm dan-23 yr Elyrch, a gallai helpu i hyfforddi’r tîm hwnnw yn y dyfodol agos.
Fe ymddangosodd o 537 gwaith i Abertawe dros gyfnod o 16 mlynedd, cyn dod yn gyfarwyddwr chwaraeon yn y clwb nes Mehefin 2020.
Daeth allan o ymddeoliad yn 2019 i chwarae i’r clwb cyfagos, Llanelli, ac yna i Rydaman yn 2021.
Mae gwahodd cyn-chwaraewyr i fentora a meithrin sêr ifanc yn fodel sy’n dod yn fwyfwy amlwg mewn pêl-droed Prydeinig, ar ôl cael ei boblogeiddio gan y tîm Almeinig, Bayern Munich.
“Ychwanegiad rhagorol”
Mae Mark Allen, cyfarwyddwr chwaraeon presennol Abertawe, yn credu y bydd y penodiad yn fuddiol iawn i chwaraewyr ieuengaf y clwb.
“Mae hwn yn gyfle gwych i’r chwaraewyr ifanc yn Abertawe ddysgu gan Leon – mae wedi bod yma drwy’r cyfan, ac mae’n ddylanwad gwych,” meddai.
“Mae gennyn ni egwyddorion a gwerthoedd pwysig yn Abertawe. Mae Leon yn enghraifft wych o rywun sy’n crynhoi arferion y clwb, ac roedd hynny’n amlwg yn ystod ei yrfa hir a llwyddiannus yma fel chwaraewr, ac yna fel cyfarwyddwr chwaraeon.
“Mae’n ychwanegiad rhagorol i academi’r clwb yn bennaf fel mentor i’r hogiau ifanc hyn, tra bydd hefyd ar gael i gyfrannu fel chwaraewr ar ryw adeg yn y dyfodol agos.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld Leon unwaith eto yn chwarae rhan bwysig yn y clwb, ac rwy’n siŵr y bydd y Jack Army wrth ei fodd gyda’i ddychweliad.”