Mae Cymru’n parhau i ddangos bywyd yn y frwydr am yr ail safle, yn dilyn buddugoliaeth dynn yn erbyn Estonia.

Gôl Kieffer Moore yn yr hanner cyntaf oedd y gwahaniaeth yn y diwedd, wrth i Gymru fethu ag adeiladu ar eu perfformiad ym Mhrâg, gyda diffyg cyfleoedd yn y blaen.

Er hynny, fe gawson nhw’r triphwynt pwysig yn Tallinn, ar ôl ail hanner rhwystredig ar y cyfan.

Fe wnaeth y Weriniaeth Tsiec ar y llaw arall adeiladu ar eu mantais gwahaniaeth goliau yn erbyn Belarws, gyda buddugoliaeth o 2-0.

Y tîm sydd â’r gwahaniaeth goliau uchaf sydd yn gorffen uchaf petai’r ddau dîm ar yr un pwyntiau.

Gyda’r ddau dîm benben â’i gilydd yn mynd i mewn i’r gemau olaf, bydd angen i Gymru obeithio am fwy o bwyntiau na’r Tsieciaid, sydd â dim ond un gêm ar ôl yn erbyn Estonia.

Mae dwy gêm olaf Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a rheiny yn erbyn Belarws ac arweinwyr y grŵp, Gwlad Belg.

Talu’n ôl

Roedd angen i Gymru obeithio am fuddugoliaeth yn Tallinn, ar ôl gêm gyfartal rwystredig yn erbyn Estonia yn y gêm gartref.

Doedd dim absenoldebau ychwanegol yn dilyn y gêm gyfartal yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Wener (8 Hydref).

Gêm gyfartal i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Tsiec

Byddai Cymru wedi ffafrio cael buddugoliaeth, ond fe roddon nhw berfformiad dewr i gipio pwynt, ar ôl ildio gôl drychinebus

Er hynny, roedd tri newid i’r 11 cychwynnol – gyda Connor Roberts a Harry Wilson yn cymryd lle Chris Gunter a Joe Morrell.

Roedd Sorba Thomas hefyd yn gwneud ei ddechreuad cyntaf fel cefnwr chwith, gyda Neco Williams yn colli ei le.

Hanner Cyntaf

Roedd ychydig o embaras i’r dyfarnwr ar ddechrau’r gêm ar ôl iddo anghofio rhoi cyfle i chwaraewyr Cymru benlinio mewn undod â symudiad Bywydau Duon o Bwys.

O fewn deugain eiliad i’r chwiban, dechreuodd Cymru yn groes i’r disgwyl â’u cefnau yn erbyn y wal, ac Estonia’n gorfodi arbediad allan o Danny Ward.

Fe newidiodd llif y chwarae yn syth wedi hynny, gyda’r gwrthwynebwyr yn ildio ciciau rhydd sinigaidd i roi cyfleoedd i Gymru fanteisio.

Ar ôl deng munud, glaniodd y bêl wrth draed Connor Roberts tua 20 llath allan, gyda’r ergyd yn mynd am gornel y rhwydd cyn i golgeidwad Estonia, Karl Hein, ei harbed.

Gôl gynnar

Roedd y gic gornel ddilynol yn llwyddiannus, gydag amddiffyn y tîm cartref yn methu â chlirio’r bêl o’r cwrt chwe llath, a Kieffer Moore yn y lle iawn ar yr amser iawn i hebrwng y bêl dros y llinell gôl.

Wedi hynny, roedd ail gôl bron â bod yn sicr, wrth i Dan James yrru’r bêl lawr y coridor ansicrwydd i Kieffer Moore, a roddodd ergyd yn syth i ddwylo’r golwr.

Fe gafodd amddiffyn Cymru ddihangfa yn ddiweddarach ar ôl i Wilson ildio meddiant yn ei gwrt cosbi ei hun, a rhoi anrheg i ymosodwr Estonia, Sergei Zenjov.

Doedd hwnnw ddim yn gallu manteisio’n llwyr ar y camgymeriad, ond roedd rhaid i Joe Rodon glirio’r bêl oddi ar y llinell gôl i osgoi gofid i’r tîm oddi cartref.

Joe Rodon yn clirio’r bêl oddi ar y llinell

Roedd Cymru’n parhau i fod yn esgeulus gyda’r chwarae ar ôl hynny, cyn adennill rheolaeth am weddill yr hanner cyntaf, gyda’r helfa am yr ail gôl yn parhau i’r ail.

Ail Hanner

Daeth Estonia o fewn trwch blewyn i unioni’r sgôr ar ddechrau’r ail hanner, wrth i’r rhif naw, Erik Sorga, benio cic rydd fodfeddi dros ben y trawst.

Roedd bloedd am gic o’r smotyn wedi i amddiffynnwr Estonia, Märten Kuusk, godi ei freichiau i wyneb Kieffer Moore yn y cwrt cosbi – ond doedd VAR ddim am roi cic o’r smotyn i Gymru.

Fe gafodd Estonia gyfle arall i wneud y Wal Goch yn nerfus, gyda Mattias Käit yn cyffwrdd y bêl i lawr yn wych yn y bocs, cyn rhoi ergyd wan i bawennau diogel Danny Ward.

Gyda Kieffer Moore eisoes wedi ei gosbi yn y gêm ddiwethaf, fe gafodd y cerdyn melyn oedd o wedi ei ofni ar ôl cwyno i’r dyfarnwr am roi cic rydd yn ei erbyn.

Rhwystredigaeth

Daeth Moore yn agos i ychwanegu ail gôl werthfawr i Gymru, ond fe fethodd â rheoli pêl drwodd gan Aaron Ramsey, ac o fewn ychydig funudau, roedd yr ymosodwr yn gadael y cau oherwydd effeithiau’r gnoc gan Käit yn gynharach.

Unwaith eto, roedd gofyn i Danny Ward gamu i’r adwy ac arbed ergyd Vlasiy Sinyavskiy, yn dilyn gwrthymosodiad di-baid arall gan Estonia.

Roedd cyfle i’r eilydd Mark Harris ychwanegu at y fantais, ond roedd y gorffeniad yn dila ac yn syth i lwybr y golwr.

Daeth ychydig o newidiadau gan Gymru i geisio dod â gwynt newydd i’w hymdrechion olaf, gyda Brennan Johnson a Chris Gunter ymlaen i sefydlogi’r chwarae.

Roedd rhai hanner cyfleoedd i’r ddau dîm erbyn diwedd y nawdeg, ond roedd y fuddugoliaeth wedi ei selio yn y diwedd yn Tallinn.

“Cawson ni’r triphwynt”

Fe siaradodd Joe Allen am berfformiad Cymru ar raglen Sgorio.

“Roedd hi’n bwysig i gael y triphwynt,” meddai.

“Rydyn ni wedi chwarae’n llawer gwell na hynna, a gallen ni wedi gwneud yn well heno yn enwedig yn yr ail hanner.

“Ond fel ’na mae hi oddi cartref, a chawson ni’r triphwynt.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y ddwy gêm sydd ar ôl nawr.”

Y Tîm

Cymru: Danny Ward, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Sorba Thomas, Ethan Ampadu, Joe Allen, Aaron Ramsey (capt.), Harry Wilson, Kieffer Moore, Daniel James

Eilyddio: Mark Harris (am Moore), Joe Morrell (am Ramsey), Brennan Johnson (am Wilson), Chris Gunter (am Roberts)