Mae tîm dartiau Cymru wedi dechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd eleni gyda buddugoliaeth.

Fe drechodd y pâr o Gymru – Jonny Clayton a Gerwyn Price – y Ffindir o 5-2 yn rownd yr 16 olaf yn yr Almaen ddoe, 9 Medi.

Nhw yw’r pencampwyr presennol ar ôl ennill y gystadleuaeth yn Awstria llynedd, gan guro Lloegr yn y rownd derfynol.

Mae Gerwyn Price yn mynd i mewn i’r gystadleuaeth yn Bencampwr y Byd, ar ôl ennill y gystadleuaeth honno yn Alexandra Palace yn Llundain fis Ionawr eleni, a fo hefyd yw’r rhif un yn netholion dartiau’r byd.

Mae Jonny Clayton hefyd mewn siâp da ar ôl ennill y Meistri a’r Uwchgynghrair Dartiau yn 2021.

Bydd y pâr yn herio tîm Lithuania yn y rownd nesaf ddydd Sadwrn, 11 Medi.

Fe wnaeth timau’r Iseldiroedd, sy’n cynnwys Michael Van Gerwen, a’r Alban, sy’n cynnwys Peter Wright, hefyd symud ymlaen i’r rownd nesaf.