Mae cwmni celfyddydau Span am gyflwyno dwy fersiwn o’r ddrama Dan y Wenallt dros yr haf.

Bydd dau gast cymunedol, un yn perfformio Under Milk Wood yn y Saesneg gwreiddiol, a’r llall yn perfformio trosiad T. James Jones i’r Gymraeg.

Daeth y syniad o berfformio drama Dylan Thomas wrth i dîm Span gynnal eu cyfarfod fideogynadledda cyntaf ar ôl cau eu swyddfa yn Arberth a bwrw ymlaen i weithio o gartref.

Yn ôl y cwmni, roedd Dan y Wenallt yn ymddangos yn ddewis delfrydol ar gyfer arbrawf i geisio cynhyrchu a pherfformio drama o dan yr amgylchiadau clo presennol.

“Clasur o ddrama, gyda math o glawstroffobia afreolus yn perthyn iddi yn ei phortread o orfoleddau a thrallodau cymuned fach,” meddai tîm Span amdani.

Arbrawf

Mae’r fenter ddigidol arbrofol newydd yma’n arddangos talentau gwirfoddolwyr Span a’r gymuned.

Mae’n ganlyniad i brosiect Span Digidol sydd wedi bod yn peilota sut y gall technoleg ddigidol gael ei defnyddio’n greadigol i fynd i’r afael â materion fel llesiant cymdeithasol ac ynysu gwledig trwy syniadau arloesol fel theatr bellennig Theatr Soffa, gan ddefnyddio meddalwedd fideogynadledda i berfformio.

“Wedi ei llunio fel drama i leisiau, mae hon yn ddrama sy’n addas iawn i’r cyfrwng mwy diddos a gynigir gan ofod digidol,” meddai Span.

“Yn wir, fedrwn ni ddim meddwl am well drama i’w chynhyrchu o dan glo – cafodd Dylan Thomas ei hun ei gloi mewn ystafell i sicrhau ei fod yn cwblhau’r drafft cyntaf o’i ddrama oriau yn unig cyn i’r darlleniad cyntaf gael ei lwyfannu!”

Bydd y perfformiad o Dan y Wenallt yn fyw ar Fehefin 19 am 8yh, a’r perfformiad o Under Milk Wood ar Fehefin 20 am 8yh.