Mae digrifwraig gafodd ei geni yng Nghymru yn dweud iddi gael ei gwahardd o wefan Twitter yn barhaol am “hyrwyddo alcohol ymhlith pobol ifanc”.

Roedd Jo Caulfield wedi postio hen lun ar Facebook ohoni hi ei hun yn dal gwydryn ar ei gwyliau, ynghyd â chapsiwn yn dweud bod “gwin yn ff**** grêt” ac yn annog pobol i “drio peth”.

Mewn neges uwchlaw’r llun, mae hi’n dweud mai “dyma pam fod Twitter wedi dweud fy mod i wedi ’ngwahardd y tro cyntaf”, cyn ychwanegu ei fod “yn barhaol y tro hwn, a dyna pam eu bod nhw wedi cau fy nghyfrif newydd”.

“Mae’n debyg fod rhywun wedi cwyno fy mod i’n hyrwyddo alcohol i bobol yn eu harddegau.”

Gyrfa

Agorodd Jo Caulfield ei chlwb comedi ei hun ar ôl penderfynu mynd yn ddigrifwr.

O fewn cyfnod byr, roedd hi’n ysgrifennu i ddigrifwyr blaenllaw fel Graham Norton, Ruby Wax a Joan Rivers ac yn perfformio ar raglenni comedi Radio 4.

Cafodd ei henwebu droeon ar gyfer gwobrau Digrifwraig y Flwyddyn, gan gynnwys gwobrau Chortle a Channel 4.

Mae’n perfformio’n gyson yng ngŵyl Caeredin ac mae hi wedi teithio â’i sioe ei hun ddwywaith ac wedi cefnogi digrifwyr gan gynnwys Graham Norton a Rory Bremner ar daith.

Mae hi’n ymddangos yn gyson ar y teledu a radio, gan gynnwys cyfresi fel Never Mind The Buzzcocks, Live At the ApolloMock The Week, The Comedy Store, Have I Got News For You a Michael McIntyre’s Comedy Roadshow.

Mae hi hefyd wedi cyflwyno eitemau ar raglenni hanesyddol i’r BBC, yn ogystal â’r Politics Show adeg etholiadau cyffredinol.

Mae hi hefyd wedi actio mewn sawl cyfres deledu.

Cafodd ei chyfres radio It’s That Jo Caulfield Again ei darlledu ar Radio 4 yn 2006, gan dynnu sylw’r wasg Brydeinig a chafodd nifer o gyfresi eraill eu comisiynu cyn iddi ddarlledu cyfres newydd, Jo Caulfield Won’t Shut Up! yn 2009 a 2010.

Mae hi hefyd wedi cyflwyno cyfresi comedi ar BBC Radio Scotland.