Fe fydd deg o raglenni a chyfresi Cymraeg yn clywed yr wythnos hon a oedden nhw’n llwyddiannus yng ngwobrau’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.
Roedd disgwyl i’r ŵyl flynyddol gael ei chynnal yn Llydaw eleni, ond fe fu’n rhaid canslo’r digwyddiad yn sgil y coronafeirws.
Yn hytrach, mae’r trefnwyr yn cynnig arlwy ar-lein dros y dyddiau nesaf, gyda’r penllanw nos Iau pan fydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi.
Mae rhaglenni Cymraeg wedi’u henwebu yn y categorïau Celfyddydau, Plant, Adloniant, Adloniant Ffeithiol, Ffurf Fer, Drama a Drama Fer.
Hefyd wedi’i henwebu mae’r rhaglen Lydaweg, Aneirin Karadog, Barzh e Douar Ar Varzhed (Bardd yng Ngwlad y Beirdd).
Mae’r ŵyl wedi’i chynnal ers 1980, gan wobrwyo’r rhaglenni a chyfresi gorau sydd wedi’u creu yn y gwledydd Celtaidd, ac mae’n symud o un wlad i’r llall.
Y rhai sydd wedi’u henwebu
Dyma’r rhaglenni a chyfresi Cymraeg sydd wedi’u henwebu:
Meic Stevens: Dim ond Cysgodion (Cwmni Da) – Celfyddydau
Prosiect Z (Boom Cymru) – Plant
Shwshaswyn (Cwmni Da) – Plant
Blwyddyn Bry (Boom Cymru) – Ffurf Fer
Cân I Gymru: Dathlu’r 50 (Avanti) – Adloniant Ffeithiol
Bwyd Epic Chris (Cwmni Da) – Adloniant
Prosiect Pum Mil (Boom Cymru) – Adloniant
Enid a Lucy (Boom Cymru) – Drama
Pili Pala (Triongl) – Drama
Merched Parchus (Ie Ie) – Drama Fer