Heno (nos Fercher, Mai 20) am saith yr hwyr bydd cyfle i fynd ar daith drwy fferm deulu’r ddawnswraig Eddie Ladd, sef Maesglas ger Tremain, i’r gogledd o dref Aberteifi.

Fy Ynys Las yw comisiwn digidol diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru a bydd Eddie Ladd yn tywys gwylwyr y We ar daith rithiol drwy gyfrwng gwefan Zoom.

Mae hi wedi bod yn gweithio tua 10 awr y dydd ar y prosiect a dywedodd wrth gylchgrawn Golwg ei bod yn bwriadu rhoi “bywyd o’r newydd i’w gorffennol.”

“Mae’n deillio o’r ffaith fy mod i yma ym Maesglas a fy mod i eisie gwneud gwaith am y lle,” meddai.

“Achos taw Maesglas yw enw’r lle, ac ry’n ni mewn ‘ynys las’. Mae’r ardal mor ddifyr, o ran y ffarmio, a’r profi arfau, a ro’n i eisie rhoi sylw i’r cyfanwaith – yr hanes, y filltir sgwâr.”

Hi ei hun sydd yn gyfrifol am greu’r cyfanwaith drwy gyfrwng ei chyfrifiadur, a bydd hi’n cyflwyno’r cwbl yn fyw.

Sain

Yn y cefndir, bydd Fy Ynys Las cynnwys pedwar trac sain gan DJ tecno o Ferlin yn yr Almaen, Martin Schmitz.

“Mae ganddo draciau o’r enw ‘Toxic Wheatfield’ ac ‘International by night’ (cyfeiriad at y cwmni tractorau International),” meddai.

Bydd cyfweliad llawn gydag Eddie Ladd yng nghylchgrawn Golwg heddiw, gallwch danysgrifio i ddarllen y cylchgrawn ar lein.